top of page

Bwcio

Rydym ar agor ar gyfer GWERSYLLA PEBYLL i cherddwyr a seiclwyr rhwng y 1af o Ebrill a’r 31ain o Fedi.
 

Mae arosiadau BOTHI ar gael drwy gydol y flwyddyn.

(*yn rhwym i argaeledd)


I archebu lle neu wirio argaeledd cysylltwch ar 07940 756070 neu 07870 918319. Mae croeso i chi adael neges os oes angen ac mi atebwn yn brydlon.


Gallwch hefyd cysylltu drwy’r e-bost glyndwrcamping@gmail.com neu lenwi’r ffurflen gyswllt ar y wefan.

Mae Gwersyllfa Glyndŵr yn safle oedolion yn unig, ond os ydych yn cynllunio ymdaith wersylla ieuenctid neu’n bwriadu ymweld yn all dymhorol mae croeso i chi gysylltu.

Ni chaniateir cŵn ar y safle.

Mae croeso i chi ddewis ble i godi’ch pabell ar gyrhaeddiad ond ni chaniateir cerbydau ar y cae gwersylla. Mae maes parcio gerllaw, ac fe ddarperir berfâu i westeion ddadlwytho eu cerbydau os oes angen.

 

Diolch
Nick a Liz

PRISIAU

 

Gwersylla pabell £15 y person

 

Arhosiad Bothi £45, cysgu hyd at ddau.

I gadarnhau man gwersylla neu arhosiad bothi mae modd talu ymlaen llaw dros y ffon gyda charden neu drwy drosglwyddiad banc.

 

Os nad ydych wedi talu o flaen llaw mae croeso i chi wneud ar garden, Apple Pay, Google Pay, gyda arian parod neu drosglwyddiad banc ar eich cyrhaeddiad.

Mae croeso i chi unrhyw bryd ar ôl 1y.p ar eich diwrnod cyrraedd.

 

Rydym yn gofyn i wersyllwyr ac arhoswyr bothi ymadael cyn 11y.b ar ddiwrnod eu hymadawiad.

bottom of page