top of page
Yr Afon Ddyfi | The River Dyfi

Croeso i Wersyllfa Glyndŵr, llecyn heddychlon a braf wedi ei deilwra ar gyfer cerddwyr a seiclwyr ar Lwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Cymru.

CROESO - WELCOME

Amdanom

Rydym yn wersyll pebyll teuluol wedi ei deilwra ar gyfer cerddwyr a seiclwyr ar fferm weithiol ger cyrion tref farchnad hanesyddol Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru. Rydym wedi ein lleoli ar gyffordd dau o lwybrau pennaf cenedlaethol Cymru - Llwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Cymru - hanner milltir i'r de o Fachynlleth.

 

Boed yn daith gerdded neu feicio mae Gwersyllfa Glyndŵr yn fan delfrydol ar gyfer y gorffwys sydd yn fawr ei angen wedi siwrne hir, neu fel safle ar gyfer anturio drwy Dyffryn Dyfi a Mynyddoedd Cambria.

 

Dyma safle wair yn swatio mewn llannerch a golygfeydd godidog o Eryri a Choedwig Dyfi ble yr ydych yn rhydd i godi’ch pabell ble a fynnwch

 

Mae bothi clyd a chyfforddus hefyd ar gael, gyda gwely dwbl, stôf goed a chyfleusterau ynni adnewyddadwy

 

Fel fferm weithiol, yn anffodus ni allwn gymodi cŵn ar y safle.

 

Cedwir y maes gwersylla’n rhydd o geir er lles eich heddwch a'ch diogelwch. Mae maes parcio gerllaw, ac fe ddarperir berfâu i westeion ddadlwytho eu cerbydau os oes angen.

Lleoliad

Machynlleth, Dyffryn Dyfi | The Dyfi Valley

Dyffryn Dyfi

Gellir mwynhau tirwedd wyrddlas Dyffryn Dyfi ar ei orau ar Faes Gwersylla Glyndŵr. Rydym wedi ein lleoli uwchben yr Afon Ddyfi wrth iddi ymdroelli tua Bae Ceredigion, lle perffaith ar gyfer saib heddychlon sydd hefyd yn darparu mynediad i holl atyniadau tref Machynlleth a Dyffryn Dyfi.

Llwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Cymru | The Glyndŵr Way and Wales Coast Path

Cerdded

Fe ddarganfyddir Gwersyllfa Glyndŵr ar ganolbwynt dau o Lwybrau Cerdded Cenedlaethol Cymru, os ydych yn cerdded Llwybr Glyndŵr neu Lwybr Arfordir Cymru fe ddewch ar ein traws. Rydym hefyd yn faes gwych i'r rhai sy'n troedio llwybrau cylchol byrrach Canolbarth Cymru, megis Llwybr Dyffryn Dyfi.

Beicio Mynydd | Mountain Biking

Beicio

Ydy beicio mynydd, dilyn llwybrau seiclo ynteu feicio teithiol at eich dant? Os felly, byddai Gwersyllfa Glyndŵr yn lanfa ddelfrydol. Mae Llwybr Beicio Traws Eryri yn cychwyn ym Machynlleth, rydym ar gam 3 o Daith Feicio Lôn Las a diolch i'w dirwedd mae Bro Ddyfi bellach yn gartref i rai o lwybrau beicio mynydd gorau'r DU.

IMG_1031.HEIC

'Y fro deg, hyfryd yw,
A heddwch yn nawdd iddi'

Dyffryn Dyfi - Gwilym R. Tilsley

Ymholiadau

Gwersyllfa Glyndŵr Campsite, Brynglas, Glaspwll, Machynlleth, Powys, SY20 8TY

Diolch am eich ymholiad!

bottom of page